Integreiddio’r cwricwlwm: yr heriau sy’n wynebu ysgolion cynradd ac uwchradd wrth ddatblygu cwricwlwm newydd yn y celfyddydau mynegiannol

Judith Kneen*, Thomas Breeze, Sian Davies-Barnes, Vivienne John, Emma Thayer

*Corresponding author for this work

Research output: Contribution to journalArticlepeer-review

Abstract

Mae integreiddio yn y cwricwlwm yn nodwedd mewn nifer o gwricwla newydd sydd wedi codi mewn gwahanol wledydd ers tua dechrau’r mileniwm. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf â dileu’r ffiniau rhwng arbenigaethau pwnc traddodiadol, er mwyn gallu cynnig cyfleoedd dysgu mwy cyfannol a ‘chydgysylltiedig’. Mae’r astudiaeth hon yn tynnu ar brofiadau grŵp o athrawon cynradd ac uwchradd yng Nghymru a oedd yn cymryd rhan mewn gwaith i greu fframwaith ar gyfer cwricwlwm integredig i’r celfyddydau mynegiannol. Er bod yr athrawon yn rhannu’r uchelgais o sefydlu cwricwlwm sy’n rhoi statws uwch i’r celfyddydau, mae integreiddio’r cwricwlwm yn cynnig heriau mawr, yn enwedig o ran y ffordd y mae gwybodaeth pwnc yn cael ei deall a’i chyflwyno mewn cwricwlwm integredig. Mae’r athrawon yn delio mewn ffyrdd gwahanol ag integreiddio’r cwricwlwm, lle mae athrawon cynradd yn ffafrio dull trawsddisgyblaethol sy’n rhoi blaenoriaeth i ddysgu a themâu a ysgogir gan y plentyn, a lle mae athrawon uwchradd yn dewis dulliau amlddisgyblaethol, lle mae’r themâu’n ddyfeisiau trefnu ond lle mae pynciau’n cael blaenoriaeth. Mae’r gwahaniaeth rhwng arferion yn awgrymu bod cysyniadau gwahanol o wybodaeth pwnc a meistrolaeth o fewn cwricwlwm integredig. Gan wneud defnydd yn benodol o gysyniadau Bernstein am ddisgyrsiau gwybodaeth, mae’r papur hwn yn awgrymu mai’r perygl mewn cwricwlwm integredig yw bod gwybodaeth ddisgyblaethol yn gwanhau. Er bod y papur hwn yn ymwneud â’r celfyddydau, mae modd cymhwyso’r negeseuon am integreiddio’r cwricwlwm yn fwy eang.
Original languageWelsh
Pages (from-to)e85-e103
JournalCurriculum Journal
Volume31
Issue number2
DOIs
Publication statusPublished - 11 May 2020

Cite this