Abstract
Mae’r papur hwn yn ymdrin â’r goblygiadau sydd yn y cwricwlwm trawsnewidiol myfyriwr-ganolog sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru o ran delio ag anghydraddoldeb addysgol. Drwy roi sylw i ddadleuon sydd wedi parhau ers cyfnod hir ym maes cymdeithaseg addysg am y rhan sydd gan wybodaeth ysgol mewn atgynhyrchu cymdeithasol a diwylliannol, mae ein hymchwil yn amlinellu rhai o’r heriau sy’n wynebu’r rheini a fydd yn gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru os yw i gynnig ‘dyfodol llwyddiannus’ i bawb. Gan wneud defnydd o ddata o gyfweliadau ac arolygon o’r ysgolion hynny sydd wedi ymgymryd â’r dasg o ddatblygu’r cwricwlwm newydd, a’r gwerthusiad o ddiwygio tebyg iawn ar y cwricwlwm ar gyfer addysg gynradd a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru, rydym yn amlinellu’r galwadau am adnoddau materol a dynol gan y cwricwlwm newydd a’r risgiau o gynyddu hyblygrwydd. Rydym yn dadlau y bydd angen buddsoddi sylweddol a rhyw fath o atebolrwydd allanol i sicrhau bod myfyrwyr dan anfantais yn cael profiad o’r cwricwlwm sy’n agor y ffordd at ‘wybodaeth bwerus’.
Original language | English |
---|---|
Pages (from-to) | e148-e165 |
Journal | Curriculum Journal |
Volume | 31 |
Issue number | 2 |
DOIs | |
Publication status | Published - 11 May 2020 |
Externally published | Yes |