Y Sgrym: Cyfiawnder a Chyfrifoldeb

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Crynodeb

Pwrpas yr erthygl hon yw dangos bod rheolau sgrym Rygbi’r Undeb yn wallus. Mae annhegwch yn anorfod wrth geisio dehongli a gweithredu’r rheolau hyn. Gan fod y sgrym yn ddigwyddiad cydweithredol a chystadleuol sy’n gofyn am ystod o sgiliau a thechnegau cymhleth, mae’n amhosibl i ddyfarnwr benderfynu yn ddibynadwy pwy sydd yn gyfrifol am droseddu. O ganlyniad, mae chwaraewyr yn aml yn cael eu cosbi yn annheg. Gall y gosb fod yn dyngedfennol i ganlyniad y gêm. Nid y chwaraewyr a gosbwyd a achosodd y drosedd o reidrwydd, ac felly nid ydynt yn foesegol gyfrifol amdani. O dan rai amgylchiadau ni allant wrthsefyll y grymoedd sy’n gweithredu arnynt. Er mwyn datrys y sefyllfa rhaid ceisio cadw cydbwysedd rhwng gwella tegwch a thanseilio rhinweddau adloniadol y gêm.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniadThe Scrum: Justice and Responsibility
Iaith wreiddiolCymraeg
Rhif yr erthygl4
Tudalennau (o-i)70-85
Nifer y tudalennau16
CyfnodolynGwerddon
Cyfrol25
Dynodwyr Gwrthrych Digidol (DOIs)
StatwsCyhoeddwyd - Hyd 2017

Allweddeiriau

  • Rygbi
  • Sgrym
  • Dyfarnwr
  • Chwaraeon
  • Moeseg
  • Teilyngdod
  • Tegwch
  • Braint epistemolegol
  • Awdurdod ontolegol
  • Trosedd
  • Laws

Dyfynnu hyn