Y sail resymegol dros gymhwyso egwyddor sybsidiaredd wrth ddiwygio cwricwla a’i ganlyniadau anfwriadol

Nigel Newton*

*Awdur cyfatebol y gwaith hwn

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Crynodeb

Yn dilyn tueddiadau ar draws y byd datblygedig i ddatganoli pŵer a chyfrifoldeb dros wasanaethau cyhoeddus i asiantaethau mwy lleol, mae diwygiadau i gwricwla mewn nifer o wledydd wedi’u nodweddu gan bolisïau sydd â’r bwriad o gynyddu galluedd a phroffesiynoldeb athrawon fel modd i sicrhau newid llwyddiannus. Yng Nghymru, mae’r dull hwn wedi’i hyrwyddo drwy fabwysiadu egwyddor sybsidiaredd. Cyflwynir pedwar rheswm cydgysylltiedig dros ei defnyddio wrth ddatblygu cwricwlwm newydd. Gellir crynhoi’r rhain fel a ganlyn: y bydd yn hybu proffesiynoldeb athrawon; yn sbarduno gwelliannau mewn addysgu; yn gwneud ysgolion yn fwy ymatebol i anghenion lleol a chenedlaethol; yn arwain at fwy o hyder yn y diwygiadau. Mae’r papur hwn yn edrych ar y graddau y mae’r pedwar cyfiawnhad hyn wedi’u hadlewyrchu ym mhrofiadau athrawon o ddatblygu’r cwricwlwm mewn ysgolion sy’n cymryd rhan yn y broses sy’n arwain ar ddiwygio’r cwricwlwm. Mae’n dangos, drwy dynnu ar ddata o 10 cyfweliad manwl lled-strwythuredig ac arolwg o fwy na 600 o athrawon, fod croeso cyffredinol i egwyddor sybsidiaredd ond nad yw’n glir o bell ffordd a yw’n bodloni’r meini prawf a gyflwynwyd i’w chyfiawnhau. Trafodir cwestiynau ynghylch cymhwyso egwyddor sybsidiaredd at ddiwygio cwricwla.

Iaith wreiddiolSaesneg
Tudalennau (o-i)e40-e56
CyfnodolynCurriculum Journal
Cyfrol31
Rhif cyhoeddi2
Dynodwyr Gwrthrych Digidol (DOIs)
StatwsCyhoeddwyd - 11 Mai 2020
Cyhoeddwyd yn allanolIe

Dyfynnu hyn