Crynodeb
Yn y bennod hon, rydym yn ymchwilio i amrywio seinegol a ffonolegol yn lleferydd siaradwyr dwyieithog Cymraeg-Saesneg rhwng 16 a 18 mlwydd oed. Rydym yn gofyn a yw cefndir ieithyddol yn dylanwadu ar amrywio yn y ddwy iaith ac i ba raddau y mae’r nodweddion dan sylw yn debyg yn y ddwy iaith. Yn gyntaf, cyflwynir astudiaeth o lafariaid a gynhyrchwyd gan siaradwyr o Rydaman (Sir Gaerfyrddin) er mwyn canfod a oes amrywio seinegol o fewn yr ieithoedd a rhyngddynt. Yn ail, rydym yn dadansoddi /r/ yn lleferydd pobl ifainc o’r Wyddgrug (Sir y Fflint) er mwyn ymchwilio i drosglwyddo ffonolegol. Yn drydydd, rydym yn ystyried i ba raddau y gall ffactorau megis defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned a chyffyrddiad iaith hirdymor esbonio’r patrymau a gafwyd.
| Iaith wreiddiol | Saesneg |
|---|---|
| Teitl | Sociolinguistics in Wales |
| Cyhoeddwr | Palgrave Macmillan |
| Tudalennau | 241-271 |
| Nifer y tudalennau | 31 |
| ISBN (Electronig) | 9781137528971 |
| ISBN (Argraffiad) | 9781137528964 |
| Dynodwyr Gwrthrych Digidol (DOIs) | |
| Statws | Cyhoeddwyd - 25 Ion 2017 |
Dyfynnu hyn
- APA
- Author
- BIBTEX
- Harvard
- Standard
- RIS
- Vancouver