Crynodeb
Mae iechyd meddwl gwael a diffyg lles yn broblem ddigynsail ymhlith plant heddiw. Cynigia Seligman (2011) y dylid gofalu am les a hapusrwydd drwy ddulliau seicoleg bositif. Mae asesiad PERMA (Positive emotion, Engagement, Relationships, Meaning, Accomplishments/Achievements) (Butler a Kern 2015) yn gofyn i unigolion hunanasesu i ba raddau y maent yn ‘ffynnu’. Bwriad y prosiect peilot hwn oedd asesu gwerth y proffiliwr-PERMA fel teclyn i adnabod agweddau ar iechyd meddwl a lles cyffredinol disgyblion blwyddyn 7 mewn tair ysgol uwchradd. Yn dilyn yr holiadur cyntaf, cynigwyd ystod o strategaethau dylunio cyffredinol i athrawon eu defnyddio cyn asesu eto ar ddiwedd y tymor. Awgryma’r canlyniadau werth teclyn hunanasesu i nodi lefelau cyffredinol iechyd meddwl a lles disgyblion ac i nodi’r unigolion hefyd sydd yn debygol o brofi anawsterau dwys yn ddiweddarach.
| Cyfieithiad o deitl y cyfraniad | Evaluating the PERMA-profiler to identify and support pupil mental health in the transition to secondary school |
|---|---|
| Iaith wreiddiol | Cymraeg |
| Tudalennau (o-i) | 1-25 |
| Cyfnodolyn | Gwerddon |
| Rhif cyhoeddi | 35 |
| Dynodwyr Gwrthrych Digidol (DOIs) | |
| Statws | Cyhoeddwyd - Ebr 2023 |
NDC y CU
Mae’r allbwn hwn yn cyfrannu at y Nod(au) Datblygu Cynaliadwy canlynol
-
NDC 3 Iechyd a Llesiant Da
Dyfynnu hyn
- APA
- Author
- BIBTEX
- Harvard
- Standard
- RIS
- Vancouver