Gwerthuso’r proffiiwr-PERMA i adnabod a chefnogi iechyd meddwl a lles disgyblion wrth bontio i’r ysgol uwchradd

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Crynodeb

Mae iechyd meddwl gwael a diffyg lles yn broblem ddigynsail ymhlith plant heddiw. Cynigia Seligman (2011) y dylid gofalu am les a hapusrwydd drwy ddulliau seicoleg bositif. Mae asesiad PERMA (Positive emotion, Engagement, Relationships, Meaning, Accomplishments/Achievements) (Butler a Kern 2015) yn gofyn i unigolion hunanasesu i ba raddau y maent yn ‘ffynnu’. Bwriad y prosiect peilot hwn oedd asesu gwerth y proffiliwr-PERMA fel teclyn i adnabod agweddau ar iechyd meddwl a lles cyffredinol disgyblion blwyddyn 7 mewn tair ysgol uwchradd. Yn dilyn yr holiadur cyntaf, cynigwyd ystod o strategaethau dylunio cyffredinol i athrawon eu defnyddio cyn asesu eto ar ddiwedd y tymor. Awgryma’r canlyniadau werth teclyn hunanasesu i nodi lefelau cyffredinol iechyd meddwl a lles disgyblion ac i nodi’r unigolion hefyd sydd yn debygol o brofi anawsterau dwys yn ddiweddarach.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniadEvaluating the PERMA-profiler to identify and support pupil mental health in the transition to secondary school
Iaith wreiddiolCymraeg
Tudalennau (o-i)1-25
CyfnodolynGwerddon
Rhif cyhoeddi35
Dynodwyr Gwrthrych Digidol (DOIs)
StatwsCyhoeddwyd - Ebr 2023

Dyfynnu hyn