Neidio i’r brif dudalen lywio Neidio i chwilio Neidio i’r prif gynnwys

‘Dyfodol llwyddiannus’ i bawb yng Nghymru? Yr heriau wrth ddiwygio cwricwla i ymdrin ag anghydraddoldeb addysgol

  • Sally Power*
  • , Chris Taylor
  • , Nigel Newton
  • *Awdur cyfatebol y gwaith hwn

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Crynodeb

Mae’r papur hwn yn ymdrin â’r goblygiadau sydd yn y cwricwlwm trawsnewidiol myfyriwr-ganolog sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru o ran delio ag anghydraddoldeb addysgol. Drwy roi sylw i ddadleuon sydd wedi parhau ers cyfnod hir ym maes cymdeithaseg addysg am y rhan sydd gan wybodaeth ysgol mewn atgynhyrchu cymdeithasol a diwylliannol, mae ein hymchwil yn amlinellu rhai o’r heriau sy’n wynebu’r rheini a fydd yn gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru os yw i gynnig ‘dyfodol llwyddiannus’ i bawb. Gan wneud defnydd o ddata o gyfweliadau ac arolygon o’r ysgolion hynny sydd wedi ymgymryd â’r dasg o ddatblygu’r cwricwlwm newydd, a’r gwerthusiad o ddiwygio tebyg iawn ar y cwricwlwm ar gyfer addysg gynradd a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru, rydym yn amlinellu’r galwadau am adnoddau materol a dynol gan y cwricwlwm newydd a’r risgiau o gynyddu hyblygrwydd. Rydym yn dadlau y bydd angen buddsoddi sylweddol a rhyw fath o atebolrwydd allanol i sicrhau bod myfyrwyr dan anfantais yn cael profiad o’r cwricwlwm sy’n agor y ffordd at ‘wybodaeth bwerus’.

Iaith wreiddiolSaesneg
Tudalennau (o-i)e148-e165
CyfnodolynCurriculum Journal
Cyfrol31
Rhif cyhoeddi2
Dynodwyr Gwrthrych Digidol (DOIs)
StatwsCyhoeddwyd - 11 Mai 2020
Cyhoeddwyd yn allanolIe

Dyfynnu hyn