Allbwn Ymchwil fesul blwyddyn
Allbwn Ymchwil fesul blwyddyn
BSc (Hons) MA PhD FHEA FRSA
Yn barod i siarad â’r cyfryngau
Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Mae’r Athro Carolyn Hayles yn Gymrawd Ymchwil Polisi a ariennir gan Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), sy’n ymchwilio i Lwybrau Ymaddasu i’r Newid yn yr Hinsawdd gyda Cadw, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru (2023- 2025).
Mae gan Carolyn fwy na 25 mlynedd o brofiad yn cynnal ymchwil yn y disgyblaethau Pensaernïaeth, Dylunio Mewnol, Peirianneg Sifil a Rheoli Adeiladu. Mae ei diddordebau yn cynnwys: Dylunio Bioffilig; Dylunio ar gyfer Iechyd a Lles; Dylunio Adeiladau Gwyrdd; Dylunio Adfywiol ac Adferol; Cadwraeth, Atgyweirio ac Adnewyddu Adeiladau Treftadaeth; ac effaith Newid yn yr Hinsawdd ar yr Amgylchedd Adeiledig; gyda diddordeb ymchwil penodol mewn datblygu a chyflawni prosesau a fframweithiau gwneud penderfyniadau cynaliadwy sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd ac sy'n gallu addasu. Mae Carolyn wedi gweithio yn y DU, UDA, Awstralia, Gwledydd Ewrop y Môr Canoldir, Hong Kong, a Singapôr. Rhwng 2020–23 roedd Carolyn yn Gymrawd Ymchwil Gwrthsefyll y Newid yn yr Hinsawdd gyda Llywodraeth Cymru, yn ymchwilio i ba mor gydnerth yw adeiladau yn y DU a Chymru i’r heriau sy’n gysylltiedig â Newid yn yr Hinsawdd.
Mae Carolyn yn croesawu gohebiaeth gan ddarpar fyfyrwyr PhD a Doethuriaeth Proffesiynol sydd â diddordeb mewn astudio agweddau ar ddylunio amgylcheddol a chynaliadwy, lliniaru ac addasu newid yn yr hinsawdd, ac addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy.
Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:
PhD, Hindreulio a gwarchod cerrig adeiladu hanesyddol: Castell Culzean, astudiaeth achos, University of Glasgow
Dyddiad Dyfarnu: 1 Tach 1998
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cyfraniad mewn cynhadledd › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid