Allbwn Ymchwil fesul blwyddyn
Allbwn Ymchwil fesul blwyddyn
Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Mae diddordebau ymchwil Alastair yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd ymyriadau amgylcheddol mewn iechyd cyhoeddus wrth ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd, a sut y gellir teilwra ymyriadau a gwasanaethau i sicrhau’r canlyniadau iechyd cadarnhaol mwyaf posibl a lleihau anghydraddoldebau mewn unigolion a chymunedau difreintiedig. Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn ymchwiliadau pedagogaidd ynghylch dylunio cwricwlwm effeithiol ar gyfer cymwysterau proffesiynol ym maes iechyd y cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd, yn enwedig rôl dysgu ar sail problemau a dysgu yn y gwaith.
Mae gan Alastair arbenigedd mewn ystod o faterion a thechnegau iechyd cyhoeddus. Mae ganddo ddealltwriaeth fanwl o ddeddfwriaeth amddiffyn iechyd yng Nghymru a Lloegr a sut y gellir ei defnyddio'n ymarferol i amddiffyn iechyd ac atal clefyd a haint rhag lledaenu. Yn 2013 darparodd adroddiad ymchwil ar gyfer Llywodraeth Cymru yn amlinellu cynlluniau astudiaethau epidemiolegol er mwyn datblygu’r sylfaen o dystiolaeth ar effeithiau tyllu cosmetig ar iechyd y boblogaeth yng Nghymru. Mae ganddo hefyd arbenigedd mewn asesu effaith iechyd, dylanwadu ar ddatblygiad polisi ar gyfer iechyd y cyhoedd, a dylunio ymyrraeth o fewn iechyd y cyhoedd.
Mae Alastair hefyd yn brofiadol mewn dylunio a darparu cyrsiau DPP a rhaglenni datblygiad proffesiynol. Mae ganddo ddealltwriaeth ragorol o fframweithiau cymwysterau a chofrestru proffesiynol ym maes iechyd y cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd, ac mae'n cyfrannu'n rheolaidd at ddatblygiadau ledled y DU fel y fframwaith peilot Ymarfer Uwch (Iechyd y Cyhoedd) a'r arolygiad o'r Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd.
Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:
Baglor, BSc (Hons) Environmental Health, University of Wales Institute Cardiff (UWIC)
Medi 1996 → Meh 2000
Dyddiad Dyfarnu: 14 Gorff 2000
Postgraduate Certificate in Teaching for Higher Education, University of Wales Institute Cardiff (UWIC)
Medi 2008 → Mai 2011
Meistr, Master of Public Health, Cardiff University
Medi 2003 → Ion 2006
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid