!!Research output per year
!!Research output per year
Mae'r Grŵp Ymchwil ar gyfer Addysgeg Holistaidd a Gwyllt (HAWP) yn archwilio sut y byddai ymddwyn a bod yn wahanol yn ein galluogi i ddod yn wahanol bobl sydd eu hangen i "ddad-ddofi" addysg. Mae dad-ddofi addysg yn gofyn am "ddysgu” o le a thirwedd. Gwrando ar leisiau o'r byd mwy na dynol. Gofalu am yr “annofedig" (Jickling et al., 2018, t.x). Ar hyn o bryd rydyn ni’n byw drwy'r chweched difodiant torfol ar ein planed. Mae ein planed a'i thrigolion yn wynebu bygythiadau dirfodol a newidiadau seismig yn sgil prynwriaeth ddi-hid, eilunaddoliaeth dechnolegol, ac wedi'u gwthio ymlaen gan feddylfryd trefedigaethol. Mewn ymateb, mae Addysgeg Holistaidd a Gwyllt yn darparu amrywiol lwybrau o wrthsafiad a dewisiadau amgen i'r diwylliant dominyddol. Mae'r rhain yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): dulliau addysgeg holistaidd; ffyrdd artistig o wybod; safbwyntiau ôl-ddyneiddiol a materolaidd newydd; addysgeg feirniadol, ac athroniaeth o ddiwylliannau brodorol a thraddodiadau doethineb hynafol. Mae’r rhain oll wedi'u plethu gyda'i gilydd gan linynnau cyffredin sy'n canolbwyntio ar archwilio ffyrdd o fod mewn addysg sy'n anrhydeddu ein rhyngberthynas â'n gilydd a'r byd sy’n fwy na dynol. Rydyn ni’n cydnabod bod ymgysylltiad dilys â'r byd sy’n fwy na dynol a'r ffyrdd artistig o fod yn caniatáu mynediad i realiti newydd, a dealltwriaeth ddirfodol, a gall gynnwys profiadau o arswyd a rhyfeddod. Felly, rydyn ni’n gwrthod y paradeim neo-ryddfrydol dominyddol ym maes addysg o'r ymgais am sicrwydd ac effeithlonrwydd.
Byddai'r Grŵp Ymchwil ar gyfer HAWP yn croesawu cyfleoedd cydweithredol gydag ymchwilwyr sydd â diddordeb yn y meysydd hyn.
Unigolyn: Academaidd
Unigolyn: Academaidd
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid