The Pontio-Trawsnewidiadau Addysgol Oes / Educational Transitions Across the Lifespan (Pontio-ETAL) Research Group

Proffil y sefydliad

Proffil sefydliad

Nod grŵp ymchwil Pontio Trawsnewidiadau Addysgol Gydol Oes yw datblygu cynrychiolaeth gydlynus a throsolwg torfol o wahanol ddulliau a safbwyntiau ar bontio addysgol. Mae ein prif bwyslais ar ddatblygu arbenigedd trawsddisgyblaethol i edrych ar yr effaith y gall pontio mewn addysg ei gael ar blant, pobl ifanc, ac oedolion, yn enwedig mewn meysydd nad ydynt wedi'u hastudio'n ddigonol hyd yma, megis plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed ac o dan anfantais.

 

Mae’r prif amcanion yn cynnwys datblygu a sefydlu rhwydweithiau cydweithredol yng Nghymru a thu hwnt, wrth ymchwilio i agweddau ar bontio addysgol a fydd yn sail i arferion gorau ac yn gwella dealltwriaeth o’r broses bontio mewn addysg o safbwynt cyfannol.

 
Rydym yn cefnogi cydweithwyr sydd â diddordeb mewn deall trawsnewidiadau addysgol yn well a chymhwyso’r wybodaeth hon i’w meysydd astudio ac ymchwiliadau eu hunain. Mae’r grŵp yn cynnal cyfarfodydd, seminarau a gweithdai rheolaidd.

Nodau Datblygu Cynaliadwy y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae ein gwaith yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 3 - Iechyd a Llesiant Da
  • NDC 4 - Addysg o Ansawdd
  • NDC 11 - Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu