Allbwn Ymchwil fesul blwyddyn
Allbwn Ymchwil fesul blwyddyn
Bydd y Grŵp Ymchwil Llenyddiaeth Saesneg a Byd-eang yn parhau i bontio i fyd hanes, hanes celf, gwleidyddiaeth, hanesyddiaeth, a theori ddiwylliannol – disgyblaethau eraill sydd hefyd yn ymdrin â’r lleihad ym mhwysigrwydd Prydain, a chwestiynau parhaus am feddwl deallusol Prydeinig.
Mae ein prif ddiddordebau ymchwil fel grŵp yn amrywiol - yn cwmpasu cyfnod Shakespeare hyd at ffuglen gyfoes, yn amrywio rhwng celfyddyd gain ac archifau na fu llawer o ymchwil yn eu cylch - ond maent hefyd yn canolbwyntio ar destun ysgrifenedig. Rydyn ni o’r farn, drwy archwilio'r testun ysgrifenedig wrth iddo ddod i'r amlwg yn wahanol mewn amser a gofod, ein bod yn gallu archwilio'r byd yn ei gyfanrwydd heddiw yn well. Mae ein hymchwil ddiweddar, er enghraifft, wedi:
Mae ein hymchwil felly yn wreiddiol o ran ei chwmpas, ac yn fyd-eang yn ei chyd-destunau ehangach. Rydyn ni eisoes yn gweithio gyda chydweithwyr ledled Ewrop ac yn Ne America, ac mae ein myfyrwyr ymchwil yn cynnwys y rhai sy'n cael eu goruchwylio ar y cyd â chydweithwyr yn Saudi Arabia, ac mae myfyrwyr o Gymru yn cynnwys y rhai sy'n archwilio ysgrifennu o Japan. Mae'r dulliau a'r ffocws hyn ar y byd-eang—sydd wedi’i ymgorffori drwy gymuned ymchwil CSESP Llenyddiaeth Saesneg —yn bwydo'n arbennig i Strategaeth Ymchwil y Brifysgol fel y'i hamlinellir yn yr Academïau Byd-eang (GA). Rydyn ni’n bwriadu ehangu'r GA drwy ein hymchwil ac i ddangos arwyddocâd darllen llenyddiaeth yn Saesneg i helpu i archwilio'r gymuned fyd-eang.
Unigolyn: Academaidd
Unigolyn: Academaidd
Unigolyn: Academaidd
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl adolygu › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid