!!Research output per year
!!Research output per year
Mae'r Grŵp Ymchwil Plentyndod ac Ieuenctid yn tynnu ynghyd ystod amrywiol o arbenigedd rhyngddisgyblaethol ar draws sbectrwm eang o weithgareddau ysgolheigaidd, i archwilio, dadansoddi, cysyniadu, a thrawsnewid ein dealltwriaeth o sut mae 'plentyndod' ac 'ieuenctid' yn cael eu hadeiladu, eu siapio a'u cynnal mewn cymdeithas gyfoes.
Gan ddefnyddio sawl maes ymchwil o fewn ac ar draws astudiaethau plentyndod, y dyniaethau, a pholisi cymdeithasol, mae'r grŵp yn ceisio annog cysylltiadau rhyngddisgyblaethol. Nod ein hymchwil, sy'n cynnwys gwaith 'traddodiadol' a 'chymhwysol', yw datblygu mewnwelediadau ystyrlon i blentyndod ac ieuenctid. Mae ein diddordebau amrywiol i’w cael ym maes cymdeithaseg, gan gynnwys lluniadu cymdeithasol, cynrychiolaeth a llunio polisïau, tra bod ein cylch gwaith, sy’n fwriadol eang, yn ceisio cynhyrchu gwybodaeth newydd drwy bontio ffiniau disgyblaethol mewn ffyrdd newydd.
Fel rhan o'n hymrwymiad i barchu a gwrando ar leisiau ieuenctid, a sicrhau bod y rhain yn ysbrydoli, yn llywio ac yn gyrru ein hymchwil, mae ein grŵp yn cynnwys is-banel o blant a phobl ifanc sy'n gweithredu fel cynghorwyr, ymchwilwyr cymheiriaid, a chyfranogwyr. Yn ogystal, mae ein grŵp yn gweithio i ddatblygu gwasanaethau ymgynghori, gwerthuso a hyfforddi arbenigol er budd amrywiol sefydliadau sy'n gysylltiedig â phlentyndod ac ieuenctid yng Nghymru a thu hwnt.
Unigolyn: Academaidd
Unigolyn: Academaidd
Unigolyn: Academaidd
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Rees-Davies, L. (Siaradwr)
Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd