The Cardiff Education and Social Justice Research Group

Proffil y sefydliad

Proffil sefydliad

Mae Grŵp Ymchwil Addysg a Chyfiawnder Cymdeithasol Caerdydd yn canolbwyntio ar bob math o anghydraddoldebau addysgol, gan gynnwys effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, gwrth-hiliaeth, anghenion dysgu ychwanegol a datblygu ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Mae ganddynt ddiddordeb ar draws y sbectrwm addysg a dysgu gydol oes a'r rhyngweithio rhwng addysg a chymdeithas yn fwy cyffredinol. Mae’r ffocws ar ymchwil sy’n agos at ymarfer sydd â'r potensial i effeithio ar bolisi ac ymarfer.

Er mai'r cyd-destun uniongyrchol ar gyfer gwaith y grŵp yw'r system addysg yng Nghymru, mae gan y grŵp ddiddordeb mewn cyd-destunau ehangach yn y DU ac yn rhyngwladol ac mae'n ceisio dylanwadu ar wybodaeth ac ymarfer yn y meysydd hynny.

 

Bydd y grŵp yn mabwysiadu dull rhyngddisgyblaethol gydag aelodau'r grŵp o ystod o ddisgyblaethau academaidd a meysydd arbenigol. Mae partneriaethau allanol wedi'u ffurfio gyda sefydliadau academaidd blaenllaw, gan gynnwys Prifysgol Glasgow, cyrff polisi fel y Sefydliad Gwaddol Addysg a sefydliadau'r sector ac awdurdodau lleol yng Nghymru.

Bydd y grŵp yn mabwysiadu dulliau cymysg o ymchwil, gan ddefnyddio ystod o ddulliau meintiol ac ansoddol wrth gynnal astudiaethau sy’n agos at ymarfer. Mae gan y grŵp arbenigedd mewn ystod o feysydd arbenigol gan gynnwys ymchwil ar oresgyn effaith tlodi ar gyrhaeddiad, ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, anghenion dysgu ychwanegol, cyflawniad pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, a llesiant dysgwyr.

Nodau Datblygu Cynaliadwy y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae ein gwaith yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 1 - Dim Tlodi
  • NDC 2 - Dim Newyn
  • NDC 3 - Iechyd a Llesiant Da
  • NDC 4 - Addysg o Ansawdd
  • NDC 5 - Cydraddoldeb Rhywiol
  • NDC 8 - Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd
  • NDC 9 - Diwydiant, Arloesi a Seilwaith
  • NDC 10 - Llai o Anghydraddoldeb
  • NDC 11 - Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy
  • NDC 12 - Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol
  • NDC 13 - Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd
  • NDC 16 - Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu