!!Research output per year
!!Research output per year
Nod y Grŵp Ymchwil Polisi ac Ymarfer Cymdeithasol yw darparu lle i ymchwilwyr rannu syniadau, adeiladu capasiti, a chreu ymchwil effeithiol mewn cyd-destun amlddisgyblaethol. Gan ddefnyddio arbenigedd o bob rhan o'r Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol (Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Tai, Gwaith Cymdeithasol, Plismona, a Gwaith Ieuenctid), mae'r grŵp yn datblygu strategaeth ar gyfer rhannu a chynhyrchu ymchwil ynghylch pynciau fel iechyd, polisi’r teulu, lles, tai, ymgysylltu â'r gymuned, proffesiynoldeb a’r ddarpariaeth les. Rydyn ni’n ymgysylltu â phartneriaid o'n rhwydweithiau y tu hwnt i'r brifysgol i sicrhau bod yr agenda ymchwil o fewn y grŵp yn ymateb i flaenoriaethau polisi cymdeithasol brys yng Nghymru, y DU, ac mewn cyd-destun rhyngwladol.
Mae'r grŵp yn cyd-fynd â'r Ganolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgareddau a Lles (CAWR) fel rhan o Academi Fyd-eang Iechyd a Pherfformiad Dynol Met Caerdydd. Y tu hwnt i'r Brifysgol, mae'r grŵp mewn sefyllfa dda i ymgysylltu â thrafodaethau polisi cymdeithasol ar lefelau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae'r gwaith a ddatblygwyd a'r ffyrdd o weithio yn adlewyrchu agenda Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru.
Mae'r grŵp yn cynnal cyfarfodydd, seminarau a gweithdai rheolaidd. Ein nod yw bod hwn yn grŵp ymchwil sy'n cael ei gynnal gan Met Caerdydd, ond gydag aelodau o sefydliadau ymarfer a phrifysgolion ledled Cymru, y DU, ac yn rhyngwladol.
Unigolyn: Academaidd
Unigolyn: Academaidd
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Golygyddol
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid