Proffil y sefydliad

Proffil sefydliad

Arwyddair y grŵp yw Mynd i'r Afael â Heriau a Chyfleoedd trwy Bartneriaeth i wella ansawdd bywyd trwy Gynnwys yr holl randdeiliaid priodol, (API). Mae prosiectau'r grŵp ymchwil ar Lygredd ac Iechyd, Clefydau Cysylltiedig â Thlodi a Nodau Datblygu Cynaliadwy. Mae'r tîm yn gweithio gyda phartneriaid ymchwil lleol, rhanbarthol a rhyngwladol ar geisiadau grant ar y cyd, cyhoeddiadau, sesiynau goruchwylio ac arholiadau ymchwil ôl-raddedig, seminarau, cynadleddau a gweithgareddau arloesi.

Rydym yn cydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Byrddau Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Aneurin, Prifysgolion Nottingham a De Cymru, grwpiau cymunedol a phartneriaid diwydiannol. Mae ein partneriaid tramor presennol wedi'u lleoli yn Camerŵn, Ghana, Kenya, Nigeria, Oman, Qatar, Rwanda, Emiradau Arabaidd Unedig ac Uganda.

Nodau Datblygu Cynaliadwy y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae ein gwaith yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 2 - Dim Newyn
  • NDC 3 - Iechyd a Llesiant Da
  • NDC 6 - Dŵr Glân a Glanweithdra
  • NDC 7 - Ynni Fforddiadwy a Glân
  • NDC 11 - Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy
  • NDC 12 - Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol
  • NDC 13 - Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd
  • NDC 15 - Bywyd ar y Tir

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu