Cybersecurity and Information Networks Centre (CINC)

Proffil y sefydliad

Proffil sefydliad

Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch a Rhwydweithiau Gwybodaeth (CINC) yn ganolfan ymchwil arbenigol yn Ysgol Technolegau Caerdydd, sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo seiberddiogelwch, diogelu data, a rhwydweithiau diogel mewn ecosystemau digidol sy'n dod i'r amlwg. Mae CINC yn cynnal ymchwil ryngddisgyblaethol i fynd i'r afael â heriau critigol ym maes dylunio systemau diogel, diogelwch y rhyngrwyd pethau, preifatrwydd data, a rhwydweithiau cyfathrebu'r genhedlaeth nesaf. 

Mae CINC yn gweithio'n agos gyda byd diwydiant, llywodraeth a phartneriaid academaidd ledled y DU ac yn rhyngwladol, gan ddatblygu atebion arloesol, i’r byd go iawn, sy'n gwella gwytnwch digidol ac yn diogelu preifatrwydd. 

Mae CINC wedi'i strwythuro i bum thema ymchwil graidd, bob un wedi'i arwain gan arbenigwyr yn y maes: 

Grŵp / Thema Pensaernïaeth Seiberddiogelwch
Dylunio systemau rhwydweithiol diogel a gwydn, gan ganolbwyntio ar optimeiddio algorithmau a phensaernïaeth i wella perfformiad a diogelwch ar draws seilwaith digidol. 

Grŵp / Thema Diogelwch Rhwydwaith a’r rhyngrwyd pethau ar gyfer Datrysiadau Clyfar 
Integreiddio diogelwch rhwydwaith â thechnolegau sy'n seiliedig ar y rhyngrwyd pethau i gefnogi datblygiad amgylcheddau clyfar mewn meysydd fel gofal iechyd, trafnidiaeth a dinasoedd clyfar. 

Grŵp/Thema Cryptograffeg ac Arloesi 
Datblygu protocolau cryptograffig newydd a fframweithiau cyfathrebu diogel ar gyfer technolegau sy'n dod i'r amlwg, gyda ffocws ar ddulliau amgryptio graddadwy ac effeithlon. 

Grŵp/Thema Polisi Diogelu Data ac Allgymorth 
Archwilio agweddau moesegol, rheoleiddiol a chymdeithasol diogelwch data. Mae'r thema hon hefyd yn cynnwys ymgysylltu â'r cyhoedd a chanllawiau polisi ar breifatrwydd, hawliau data, ac ymwybyddiaeth seiber. 

Grŵp / Thema Arloesi Rhwydwaith 5G / 6G 
Ymchwilio i brotocolau cyfathrebu diogel, effeithlon ac addasol ar gyfer rhwydweithiau diwifr y genhedlaeth nesaf i gefnogi cyfrifiadura ar yr ymyl, Deallusrwydd Artiffisial, a chysylltedd y rhyngrwyd pethau. 

Golwg a Chyfleusterau Ymchwil 
Mae CINC wedi ymrwymo i hyrwyddo seiberddiogelwch drwy ymchwil gyfrifol sy’n cael effaith o bwys. Mae'r ganolfan yn meithrin amgylchedd ymchwil amrywiol a chynhwysol, gan gefnogi meithrin gallu, datblygu PhD, a chydweithredu rhyngddisgyblaethol. Mae’r ymchwil yn cyd-fynd â nodau strategol Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn cyfrannu at agendâu seiberddiogelwch cenedlaethol a byd-eang. 

Cysylltu a Chydweithio: 
Ebost: [email protected]
Cyfleoedd Cydweithredu: Prosiectau ymchwil ar y cyd, ymgynghoriaeth, cyfnewid gwybodaeth, a meithrin gallu mewn seiberddiogelwch a seilwaith digidol diogel. 

Mae CINC yn ymroddedig i adeiladu dyfodol digidol diogel ac ymwybodol o breifatrwydd drwy fynd i'r afael â heriau heddiw a pharatoi ar gyfer gofynion technolegol yfory. 

Nodau Datblygu Cynaliadwy y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae ein gwaith yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 3 - Iechyd a Llesiant Da
  • NDC 7 - Ynni Fforddiadwy a Glân
  • NDC 8 - Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd
  • NDC 9 - Diwydiant, Arloesi a Seilwaith
  • NDC 11 - Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy
  • NDC 12 - Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol
  • NDC 13 - Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd
  • NDC 16 - Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu