Allbwn Ymchwil fesul blwyddyn
Allbwn Ymchwil fesul blwyddyn
Mae CCRC yn dathlu cymysgedd eclectig o aelodau ymchwil sy'n dod at ei gilydd i archwilio ymchwil arloesol ym maes deallusrwydd artiffisial (AI), rhyngweithio cyfrifiadurol dynol (HCI) a gwyddor data. Drwy harneisio'r meysydd hyn mewn ffyrdd arloesol a chreadigol, mae CCRC yn darparu atebion trawsnewidiol, ymchwil arloesol, a gwasanaethau ymgynghori arbenigol a all yrru newid ar draws ystod o ddiwydiannau - gan gynnwys peirianneg meddalwedd, addysg, busnes, gofal iechyd, a gemau cyfrifiadurol, ymhlith eraill.
Mae CCRC wedi'i strwythuro i bum thema ymchwil allweddol.
Mae'r thema hon yn archwilio gemau fel arteffactau diwylliannol, cymdeithasol a thechnolegol cymhleth. Mae'n archwilio sut mae gemau’n cael eu dylunio, eu datblygu, eu chwarae a'u deall, gan ystyried eu heffaith ar ymddygiad dynol, hunaniaeth a chymdeithas.
Mae'r thema hon yn canolbwyntio ar ddylunio, datblygu, gwerthuso, ac effaith technoleg mewn lleoliadau addysgol. Mae'n cwmpasu'r defnydd o dechnoleg i wella profiadau addysgol presennol a chreu offer arloesol ar gyfer ffurfiau newydd o ddysgu ac addysgu.
Mae'r thema hon yn archwilio croestoriad peirianneg meddalwedd a deallusrwydd artiffisial, gan ganolbwyntio ar sut y gall AI wella dylunio, datblygu, cynnal a chadw ac optimeiddio systemau meddalwedd.
Mae'r thema hon yn ymchwilio i’r modd y gall algorithmau AI datblygedig a dulliau sy'n cael eu gyrru gan ddata drawsnewid gwahanol ddiwydiannau ac ymchwil. Mae'r thema hon hefyd yn cynnwys ymchwil arloesol mewn cynhyrchiant taenlenni ac asesu risg.
Mae'r thema hon yn astudio'r berthynas ddeinamig rhwng iechyd a thechnoleg, gan ganolbwyntio ar sut y gall arloesiadau digidol wella darpariaeth gofal iechyd, canlyniadau cleifion, a lles corfforol a meddyliol cyffredinol.
Cyfleusterau: Mae gan CCRC labordy pwrpasol wedi'i gynllunio ar gyfer astudiaethau defnyddioldeb, hygyrchedd a chynhwysiant, yn ogystal â datblygiad arloesol.
Cysylltu a Chydweithio:
Ebost: [email protected]
Unigolyn
Unigolyn
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl adolygu › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl adolygu › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
Grigorian, E. (Siaradwr)
Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
Ullah, R. (Cadeirydd)
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiad › Cymryd rhan mewn cynhadledd, gweithdy, ...
Grigorian, E. (Cadeirydd)
Gweithgaredd: Aelodaeth › Aelodaeth o rwydwaith