Neidio i’r brif dudalen lywio Neidio i chwilio Neidio i’r prif gynnwys

Centre for international Research into Leadership in Education (CIRLE)

Proffil y sefydliad

Proffil sefydliad

Mae'r Ganolfan Ymchwil Ryngwladol i Arweinyddiaeth mewn Addysg (CIRLE) yn cynnig ffynhonnell o dystiolaeth ymchwil arloesol a chyfoes drwy ei chyswllt ag ysgolheigion ym myd addysg, a disgyblaethau eraill, ledled y byd. Mae'r Ganolfan wedi'i chysylltu â chanolfannau rhagoriaeth, yn fyd-eang, a'i phrif nod yw cynhyrchu gwybodaeth, syniadau ac arferion newydd sy'n canolbwyntio ar arweinyddiaeth ym maes addysg yn benodol ac arweinyddiaeth mewn disgyblaethau eraill, yn ehangach. Mae gwaith y ganolfan ryngwladol yn seiliedig ar ymchwil ac wedi’i arwain gan ymchwil.

 

Mae gan y Ganolfan bartneriaethau strategol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei chysylltiadau â Chanolfan Hume yn y Swistir yn enghraifft o'r ffordd y mae'r Ganolfan yn meithrin cysylltiadau â chanolfannau rhagoriaeth eraill, yn yr achos hwn, i ddatblygu gwybodaeth newydd ac i gyflwyno rhaglenni sy'n canolbwyntio ar arwain ar gyfer tegwch mewn addysg.

 

Mae gan y Ganolfan gysylltiadau cryf yn genedlaethol drwy ei gwaith gyda'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a Chymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru. Mae cysylltiadau o'r fath yn sicrhau bod ei waith wedi'i seilio ar y realiti cyfoes sy'n wynebu arweinwyr ar bob lefel o fewn system addysg Cymru.

 

Mae gan y Ganolfan gysylltiadau da yn rhyngwladol gan ei bod yn cysylltu ag ystod o ysgolheigion a gydnabyddir yn fyd-eang yn Awstralia, Canada, Hong Kong, yr Alban, Singapore, ac UDA. Mae presenoldeb rhyngwladol y Ganolfan a'i chyrhaeddiad i gylchoedd ymchwil a pholisi, mewn llawer o wledydd, yn sicrhau bod ei gwaith ymchwil o'r radd flaenaf ac o berthnasedd cyfoes i unrhyw arweinydd boed mewn addysg neu mewn disgyblaethau eraill.

 

Mae gwaith ymchwil y Ganolfan yn rhyngddisgyblaethol, gan gysylltu ag Academi Fyd-eang Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer Iechyd a Gwyddorau Dynol i gynnwys arbenigedd y rhai sy'n gweithio ym meysydd busnes, chwaraeon ac iechyd i lywio ei gwaith ymchwil a datblygu.

Nodau Datblygu Cynaliadwy y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae ein gwaith yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  1. NDC 3 - Iechyd a Llesiant Da
    NDC 3 Iechyd a Llesiant Da
  2. NDC 4 - Addysg o Ansawdd
    NDC 4 Addysg o Ansawdd
  3. NDC 5 - Cydraddoldeb Rhywiol
    NDC 5 Cydraddoldeb Rhywiol
  4. NDC 8 - Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd
    NDC 8 Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd
  5. NDC 10 - Llai o Anghydraddoldeb
    NDC 10 Llai o Anghydraddoldeb

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu