Ysgol Dechnolegau Caerdydd

Proffil y sefydliad

Proffil sefydliad

Lansiwyd yr Ysgol yn 2018 gan gynnig graddau arloesol israddedig ac ol-radd a chyfleoedd ymchwil ym maes technoleg. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda chyflogwyr ar draws y diwydiant technoleg i ddylunio'n ofalus gyrsiau sy'n berthnasol i'r diwydiant ac yn ffocysu ar yrfaoedd, cyrsiau sy'n cynnig cyfleoedd i chi gael profiad gwaith, parhau gyda'ch ymchwil neu astudio gyda'n partneriaid rhyngwladol. 

Trefnir gweithgareddau ymchwil yn yr Ysgol Dechnolegau Caerdydd yng nghyswllt pum canolfan ymchwil; Y Ganolfan ar gyfer Diwydiant 4.0 ac Ymchwil Blockchain (CI4BCR); Canolfan Ymchwil Cyfrifiadura Creadigol (CCRC); Seiberddiogelwch, Canolfan Rhwydweithiau Gwybodaeth (CINC); a'r Canolfan Roboteg EUREKA a'r dau grŵp ymchwil; Grŵp Ymchwil BioBeirianneg (BRG) a’r Sero Net a Grŵp Ymchwil Cynaliadwyedd. 

Mae'r canolfannau hyn yn cynnwys timau ymchwil ac arloesi hynod weithgar sy'n ymchwilio pob maes allweddol o wyddorau cyfrifiadurol a pheirianneg gan gynnwys roboteg, deallusrwydd artiffisial, biowybodeg a gwyddor data. 

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a wnaed yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd, cysylltwch â [email protected] 

Nodau Datblygu Cynaliadwy y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae ein gwaith yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 2 - Dim Newyn
  • NDC 3 - Iechyd a Llesiant Da
  • NDC 4 - Addysg o Ansawdd
  • NDC 5 - Cydraddoldeb Rhywiol
  • NDC 7 - Ynni Fforddiadwy a Glân
  • NDC 8 - Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd
  • NDC 9 - Diwydiant, Arloesi a Seilwaith
  • NDC 10 - Llai o Anghydraddoldeb
  • NDC 11 - Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy
  • NDC 12 - Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol
  • NDC 13 - Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd
  • NDC 16 - Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu