Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Proffil y sefydliad

Proffil sefydliad

Mae Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd yn ymfalchïo yn ei henw da am ymchwil ‘Arwain y Byd’ ac ‘Rhyngwladol Ardderchog’. Mae Ymchwil ac Arloesedd yn flaenoriaethau strategol, fel y dangosir gan ehangder, dyfnder ac ansawdd y gweithgarwch ymchwil a ddangoswyd. Mae ymrwymiad yr Ysgol i feithrin diwylliant ymchwil bywiog a chefnogi staff yn eu dyheadau ymchwil yn ganolog i'w hethos o addysgu a dysgu sy'n seiliedig ar ymchwil, yn ogystal ag ymgysylltu allanol.

Mae gan ein hymchwil sylfaen gymhwysol gref ac mae ganddi raglenni ymchwil gweithredol mewn nifer o broffesiynau perthynol i iechyd, gwasanaethau iechyd, addysg a chymunedol, cyfranogiad gweithgaredd corfforol a chwaraeon perfformio.

Cydlynir gweithgareddau ymchwil ac arloesi mewn saith Canolfan sy'n adlewyrchu'r ystod o weithgareddau a gyflawnir gan ein staff. Y Canolfannau yw: 1) Canolfan Diwydiant Bwyd, Zero to five, (FIC), 2) Canolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgarwch Corfforol a Lles (CAWR), 3) Canolfan Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd (CHSE), 4) Canolfan Iechyd Cardiofasgwlaidd a Heneiddio, 5) Canolfan Lleferydd, Clyw a Chyfathrebu, 6) Canolfan Gwyddor Chwaraeon Cymhwysol, 7) Canolfan Hyfforddi, Rheoli a Diwylliant Chwaraeon.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am ymchwil yn CSSHS, cysylltwch â'r Deon Cyswllt ar gyfer Ymchwil, yr Athro Jon Oliver.

I gael rhagor o wybodaeth am arloesi yn CSSHS, cysylltwch â'r Deon Cyswllt dros Arloesi, yr Athro Peter Sykes.

Nodau Datblygu Cynaliadwy y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae ein gwaith yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 1 - Dim Tlodi
  • NDC 2 - Dim Newyn
  • NDC 3 - Iechyd a Llesiant Da
  • NDC 4 - Addysg o Ansawdd
  • NDC 5 - Cydraddoldeb Rhywiol
  • NDC 6 - Dŵr Glân a Glanweithdra
  • NDC 7 - Ynni Fforddiadwy a Glân
  • NDC 8 - Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd
  • NDC 9 - Diwydiant, Arloesi a Seilwaith
  • NDC 10 - Llai o Anghydraddoldeb
  • NDC 11 - Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy
  • NDC 12 - Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol
  • NDC 13 - Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd
  • NDC 15 - Bywyd ar y Tir
  • NDC 16 - Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu