Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Anghenion Dysgu Ychwanegol, Anabledd a Chynhwysiant wedi'i ymroi i hyrwyddo addysg gynhwysol trwy gynnal ymchwil arloesol sy'n llywio ac yn llunio polisi, ymarfer a datblygiad proffesiynol. Mae ein grŵp yn dwyn ynghyd ymchwilwyr o ddisgyblaethau amrywiol i archwilio anghenion dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) / Anghenion Addysg Arbennig, gan nodi atebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth i fynd i'r afael â heriau mewn lleoliadau addysgol. Rydym yn canolbwyntio ar wella hygyrchedd, tegwch a chanlyniadau i unigolion ag ADY trwy ymchwil arloesol sy'n pontio'r bwlch rhwng theori ac ymarfer.
Mae ein gwaith wedi ei seilio ar gydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys addysgwyr, teuluoedd, llunwyr polisi, gan sicrhau bod gan ein hymchwil effaith yn y byd go iawn. Ein nod yw dylanwadu ar bolisi cenedlaethol a rhyngwladol, llywio arferion gorau yn yr ystafell ddosbarth, a chyfrannu at ddatblygu fframweithiau addysgol cynhwysol sy'n grymuso dysgwyr ac addysgwyr.
Drwy feithrin dull rhyngddisgyblaethol, rydym yn archwilio ADY o wahanol safbwyntiau, gan integreiddio mewnwelediadau o addysg, seicoleg, iechyd a gwyddorau cymdeithasol. Mae'r grŵp wedi ymrwymo i hyrwyddo'r agenda cynhwysiant, cefnogi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (ALNET) Llywodraeth Cymru, a chyfrannu at drafodaethau byd-eang ar anabledd a chynhwysiant.
Ymunwch â ni yn ein cenhadaeth i greu tirwedd addysgol fwy cynhwysol, cyfartal a hygyrch i bob dysgwr. Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Anghenion Dysgu Ychwanegol, Anabledd a Chynhwysiant yn gymuned ddeinamig a blaengar o ysgolheigion sy'n angerddol am wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau myfyrwyr ag ADY.
Unigolyn: Academaidd
Unigolyn: Academaidd
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid